Mae’r Gweilch a Scarlets yn mynd benben heddiw (Dydd Sadwrn, Mai 18) mewn gêm fydd yn penderfynu pwy fydd yn chwarae ym mhrif gynghrair Ewrop tymor nesaf.

Fe orffennodd y Gweilch yn bedwerydd yng Nghynghrair A, ac fe wnaeth y Scarlets yr un peth yng Nghynghrair B yng Nghwpan Pencampwyr Pro14 eleni.

Mae hyn yn golygu nad oes tîm o Gymru wedi llwyddo cael lle awtomatig yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop tymor nesaf.

Fodd bynnag, fe fydd y gêm yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe heno yn penderfynu pwy fydd yn cynrychioli Cymru ynddi yn 2019/20.

Y rheolwyr

Dywed Allen Clarke, rheolwr y Gweilch: “Mae’n dweud llawer am y grŵp hwn, am eu cymeriad, eu cryfder meddyliol a’u gallu, ein bod wedi rhoi ein hunain yn y sefyllfa hon pan na fyddai unrhyw un wedi ein cefnogi ym mis Mawrth.”

Yn ôl Wayne Pivac, rheolwr y Scarlets hefyd maen nhw “wedi paratoi’n dda ac wedi siarad am bwysigrwydd y gêm.

“Mae gennym hanes balch yn echelon uchaf rygbi Ewrop ac yn amlwg dyna le byddai’r clwb yn hoffi bod eto.

“Fel arfer, y Gweilch yw un o gemau mwyaf y tymor, felly mae cael y gêm ychwanegol hon yn rhoi llawer o gymhelliant i’r ddwy ochr.”

Timau

Y Gweilch:

Dan Evans; George North, Cory Allen, Owen Watkin, Keelan Giles; Sam Davies, Aled Davies; Nicky Smith, Scott Baldwin, Tom Botha, Adam Beard, Alun Wyn Jones, Olly Cracknell, Justin Tipuric (capt), Dan Lydiate.

Scarlets:

Leigh Halfpenny; Johnny McNicholl, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Ioan Nicholas; Dan Jones, Gareth Davies; Phil Price, Ken Owens (capt), Werner Kruger, Jake Ball, Steve Cummins, Josh Macleod, Will Boyde, Blade Thomson.