Mae 21 o ferched wedi cael eu cynnwys yng ngharfan rygbi saith bob ochr Cymru, a hynny ar drothwy pencampwriaeth Rygbi Ewrop fis nesaf.

Mae’r garfan yn gymysgedd o ddoniau hen a newydd, gan gynnwys rhai o sêr tîm 15 bob ochr rygbi merched Cymru – Alisha Butchers, Gemma Rowland, Jasmine Joyce a Hannah Jones yn eu plith.

Mae Gemma Rowland a Dyddgu Hywel hefyd wedi eu cynnwys yn y garfan ar ôl treulio cyfnod yn gwella o anafiadau.

Ymhlith yr aelodau eraill wedyn mae Celyn Lazenby, Ellie Morgan, Megan Webb, Caitlin Lewis a Hannah Powell.

Rygbi Ewrop

Bydd y garfan yn teithio i fyny i’r Alban y penwythnos hwn lle y byddan nhw’n ymweld â gwersyll hyfforddi a chwarae gemau yn erbyn yr Alban.

Wedyn bydd gemau yn erbyn tîm saith bob ochr Amsterdam a Madrid ar ddechrau mis Mehefin, cyn y bydd tîm Cymru yn cychwyn ar eu hymgyrch Rygbi Ewrop yn ninas Paris ar Fehefin 29/30.

Bydd yr ail gymal o gemau yn cael ei gynnal yn yr Wcráin ar Orffennaf 20/21.

Y garfan              

Alex Callender, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Bethan Davies, Courtney Keight, Dyddgu Hywel, Gemma Rowland, Gwen Crabb, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Jess Kavanagh, Keira Bevan, Lauren Smyth, Lisa Neumann, Lleucu George, Rebekah O’Loughlin, Celyn Lazenby, Ellie Morgn, Megan Webb, Caitlin Lewis, Hannah Powell.