Warren Gatland fydd prif hyfforddwr tîm rygbi Llewod Prydain ac Iwerddon ar gyfer eu taith yn ne Affrica yn 2021.

Mae’n debyg fod y penodiad yn rhoi terfyn ar y posibilrwydd o Warren Gatland yn cychwyn hyfforddi Lloegr ar ôl Cwpan y Byd.

Gemau’r gystadleuaeth honno fydd rhai olaf Warren Gatland gyda Chymru, ac roedd sïon y gallai fynd i hyfforddi’r Saeson wedyn.

Eleni fe enillodd Cymru trydydd Camp Lawn dan ofal Gatland, a’u pedwerydd Pencampwriaeth, ac ef yw’r hyfforddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y Chwe Gwlad.

Yn ogystal â’i waith gyda Chymru, mae Warren Gatland wedi hyfforddi’r Llewod ar eu teithiau i Awstralia (ennill 2-1) yn 2013 a Seland Newydd (cyfartal 1-1) yn 2017.