Dreigiau 34–32 Scarlets

Daeth tymor hynod siomedig y Dreigiau i ben gyda buddugoliaeth anhygoel yn erbyn y Scarlets mewn gêm gyffrous yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd angen buddugoliaeth ar Fois y Sosban i gadw eu gobeithion gemau ail gyfle Guinness Pro14 yn fyw mewn gwirionedd ond rhoddwyd cnoc sylweddol i’r gobeithion hynny pan enillodd y Dreigiau gêm gyntaf “Dydd y Farn” gyda chais hwyr Matthew Screech.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Dreigiau’n dda gan fynd chwe phwynt ar y blaen gyda dwy gic gosb Josh Lewis yn y chwarter awr cyntaf.

Trodd y gêm ben i waered yn fuan wedi hynny yn dilyn cerdyn melyn i Hallam Amos, asgellwr y Dreigiau’n cael ei gosbi braidd yn hallt am daro’r bêl ymlaen wrth geisio rhyng-gipio ar y llinell hanner.

Gyda’r asgellwr yn y gell gosb roedd gwagle i olwyr y Scarlets ac fe fanteisiodd eu hasgellwyr yn llawn, Ioan Nicholas yn croesi yn y gornel chwith i ddechrau cyn i Johnny McNicholl blymio drosodd yn y gornel dde.

Hyd yn oed gyda’r Dreigiau yn ôl i bymtheg dyn, parhau i reoli a wnaeth Bois y Sosban gyda Gareth Davies yn ychwanegu trydydd cais cyn yr egwyl, sgôr nodweddiadol i’r mewnwr, yn ffugio o fôn ryc cyn croesi.

Dim ond un o’r tri cais a gafodd ei drosi gan Leigh Halfpenny gan olygu mai dwy sgôr yn unig a oedd ynddi wrth droi, 6-17 y sgôr wedi deugain munud.

Ail Hanner

Roedd y Dreigiau’n meddwl eu bod wedi taro nôl ym munud cyntaf yr ail hanner ond penderfynodd y dyfarnwr fideo fod Ross Moriarty wedi colli rheolaeth ar y bêl wrth dirio.

Fe wnaeth y tîm o’r dwyrain sgorio’n fuan wedyn serch hynny, Screech yr ail reng yn sgorio a’r Dreigiau o fewn pedwar pwynt wedi trosiad Lewis.

Roedd y “tîm cartref” ar y blaen yn fuan wedi hynny, cais i Jack Dixon yn dilyn bylchiad Amos ar yr asgell. Llwyddodd Lewis gyda’r trosiad cyn ymestyn mantais ei dîm ym mhellach gyda’r trydydd cais ddau funud yn ddiweddarach wedi rhyng-gipiad gwych ar y llinell hanner.

Trosodd Lewis ei gais ei hun i roi deg pwynt o fantais annisgwyl i’w dîm ond yn ôl y daeth y Scarlets drachefn gyda dau gais cyflym hanner ffordd trwy’r hanner.

Plymiodd Jonathan Davies drosodd yn y gornel i sicrhau’r pwynt bonws wedi dadlwythiad gwych Ken Owens cyn i McNicholl groesi am ei ail ef a phumed ei dîm yn dilyn symudiad tîm da.

Roedd y sgôr yn gyfartal wedi’r cais hwnnw ond llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad i roi’r Scarlets ar y blaen cyn ymestyn y fantais i bump pwynt gyda chic gosb saith munud o’r diwedd.

Ond ni wnaeth y Dreigiau roi’r ffidl yn y to ac roedd digon o amser ar ôl i Screech sgorio ei ail gais ef a phedwerydd ei dîm funud o’r diwedd, y sgôr yn cael ei chaniatáu gan y dyfarnwr fideo y tro hwn wedi oedi hir.

Rhoddodd trosiad Jason Tovey’r Dreigiau ddau bwynt ar y blaen ond fe allai pethau fod wedi newid eto pe bai Rhys Patchell wedi llwyddo gyda gôl adlam hwyr. Ond methu a wnaeth yr eilydd faswr a bu rhaid i’r gwŷr o’r gorllewin fodloni ar ddau bwynt bonws yn unig.

Effaith ar y tabl

Mae’r pwyntiau bonws hynny’n ddigon i godi’r Scarlets i’r trydydd safle yn nhabl adran B am y tro ond mae Benetton yn debygol o neidio drostynt ar ôl wynebu Zebre mewn gêm hwyrach. Gall Caeredin ddisodli’r Cymry hefyd er eu bod hwy yn wynebu gêm dipyn anoddach oddi cartref yn erbyn eu cydwladwyr, Glasgow.

Mae trydydd yn golygu lle yng ngemau ail gyfle’r Pro14 a llwybr uniongyrchol i Gwpan Pencampwyr Ewrop. Mae pedwerydd yn ddigon am gêm ail gyfle Ewropeaidd a phumed yn golygu mai’r golled hon yn erbyn y Dreigiau a fyddai gêm olaf tymor siomedig.

Sôn am dymhorau siomedig, mae’n debyg y bydd y fuddugoliaeth hon yn ddigon i godi’r Dreigiau dros y Southern Kings oddi ar waelod adran B ond ni ddylai hynny dynnu sylw oddi ar drafferthion ar y cae yn Rodney Parade.

.

Dreigiau

Ceisiau: Matthew Screech 48’, 79’, Dixon 53’, Josh Lewis 56’

Trosiadau: Josh Lewis, 39, 55’, 57’, Jason Tovey 79’

Ciciau Cosb: Josh Lewis 4’, 15’

Cerdyn Melyn: Hallam Amos 17’

.

Scarlets

Ceisiau: Ioan Nicholas 19’, Johnny McNicholl 26’, 64’, Gareth Davies 30’, Jonathan Davies 61’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 20’, 66’

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 73’

Cerdyn Melyn: Dave Bulbring 51’