Roedd y Gymraes Jasmine Joyce ar dân wrth iddi sgorio pedwar cais yn ei gêm gyntaf i’r Barbariaid yn erbyn yr Unol Daleithiau yn Denver ddoe (dydd Gwener, Ebrill 27).

Cipiodd ei thîm fuddugoliaeth o 34-33, a hithau’n un o dair Cymraes yn eu plith, ynghyd ag Alisha Butchers ac Elinor Snowsill.

A hithau fel arfer yn chwarae ar yr asgell, wnaeth hi serennu yn safle’r cefnwr.

Sgoriodd Alisha Butchers, y flaenasgellwraig, gais hefyd wrth i Elinor Snowsill reoli’r gêm yn safle’r maswr.

Torrodd Jasmine Joyce yn rhydd yn eiliadau ola’r gêm i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda symudiad ola’r ornest.

‘Eithaf arbennig’

“Mae’n eitha’ anhygoel i gael pedwar cais ac roedd chwarae yn safle’r cefnwr yn eitha’ arbennig,” meddai Jasmine Joyce ar ôl y gêm.

“Roedd y [cais] olaf yn berfformiad tîm a’r cyfan roedd rhaid i fi ei wneud oedd rhedeg.

“Roedd chwarae gyda chwaraewyr o safon fyd-eang yn hawdd i fi.

“Wnes i jyst rhedeg a rhoi’r bêl i lawr.”