Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr rygbi dyrru i Gaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 27), wrth i ranbarthau rygbi Cymru herio ei gilydd.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, bydd dros 60,000 o bobol yn bresennol yn Stadiwm y Principality ar gyfer Dydd y Farn, sef dwy gêm rhwng y rhanbarthau yng nghynghrair y PRO14.

Mae’r gêm gyntaf yn cychwyn am 3yp, wrth i’r Scarlets herio’r Dreigiau.

Bydd yr ail gêm rhwng y Gleision a’r Gweilch yn cychwyn am 5:15yp.

Cyfarpar amddiffyn y geg

Bydd chwaraewyr y Gweilch a’r Gleision yn treialu cyfarpar newydd i amddiffyn y geg sy’n gallu nodi cyfergyd.

Mae’r cyfarpar, sy’n cynnwys sglodyn arbennig, yn anfon data at yr hyfforddwyr a staff meddygol ar ymyl y cae.

Cwmni SWA o Abertawe, ynghyd â phrifysgol y ddinas, sydd wedi datblygu’r cyfarpar ar ôl bod yn ymchwilio ers dwy flynedd.

Cafodd y cyfarpar ei wisgo am y tro cyntaf gan y Gweilch a’r Gleision y llynedd.