Cheetahs 38–13 Dreigiau

Mae tymor siomedig y Dreigiau yn y Guinness Pro14 yn parhau wedi iddynt golli’n drwm yn erbyn y Cheetahs yn Stadiwm Free State, Bloomfontein, nos Sadwrn.

Sgoriodd y tîm o Dde Affrica bump cais mewn buddugoliaeth bwynt bonws gyfforddus.

Cic gosb yr un gan Tiaan Schoeman a Josh Lewis a oedd unig bwyntiau’r 39 munud cyntaf ond roedd y tîm cartref ar y blaen ar yr egwyl diolch i gais Henco Venter.

Tarodd y Dreigiau’n ôl gyda sgôr Taine Basham yn gynnar yn yr ail gyfnod ac roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen 10-13, gyda dim ond chwarter y gêm yn weddill.

Ond gorffennodd y Cheetahs yn gryf gan groesi am bedwar cais arall yn yr ugain munud olaf, un yr un i Shaun Venter, Schoeman, Louis Fouche a Sibhale Maxwane.

Mae’r canlyiad yn cadw’r Dreigiau ar waelod adran B y Pro14 gydag un gêm yn weddill, yn erbyn y Scarlets ymhen pythefnos.

.

Cheetahs

Ceisiau: Henco Venter 40’, Shaun Venter 63’, Tiaan Schoeman 74’, Louis Fouche 78’, Sibhale Maxwane 80’

Trosiadau: Tiaan Schoeman 40’, 64’, 75’, 79’, 80’

Cic Gosb: Tiaan Schoeman 5’

Cerdyn Melyn: Johannes Coetzee 58’

.

Dreigiau

Cais: Taine Basham 44’,

Trosiad: Josh Lewis 45’

Ciciau Cosb: Josh Lewis 30’, 59’