Capten Cymru, Alun Wyn Jones, sydd wedi ei enwi’n Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gyfer 2019, ar ôl arwain y crysau cochion at y Gamp Lawn.

Fe lwyddodd y blaenwr i gyrraedd y blaen ar ei gyd-chwaraewyr, Hadleigh Parkes, Josh Adams a Liam Williams, yn ystod y bleidlais gyhoeddus.

Roedd Jonny May a Tom Curry o Loegr yn agos at y brig hefyd.

 “Wrth fy modd”

Dyma’r trydydd tro i Alun Wyn Jones brofi’r wefr o ennill y Gamp Lawn, gan iddo hefyd fod yn aelod o garfannau llwyddiannus Cymru yn 2008 a 2012.

“Dw i wrth fy modd,” meddai Alun Wyn Jones wrth dderbyn yr anrhydedd.

“I fi, fel capten Cymru, mae’n gadarnhad o’r hyn rydyn ni wedi ei wneud fel carfan yn ystod yr ymgyrch.”