Mae Clwb Rygbi Wigan yn “ceisio cael trafodaeth” gyda Shaun Edwards yn dilyn sylwadau a wnaeth dros y penwythnos sy’n codi amheuon dros ei fwriad i ddychwelyd i’w hen glwb yn y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i hyfforddwr cynorthwyol Cymru adael ei swydd bresennol ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn yr hydref, ac roedd wedi cytuno i symud yn ôl i Wigan, lle treuliodd 14 mlynedd yn chwaraewr.

Ond wedi i bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddod i ben dros y penwythnos, fe ddywedodd Shaun Edwards nad oedd wedi arwyddo cytundeb gyda Wigan, gan ychwanegu y byddai, cyn belled ag y mae ef yn y cwestiwn, yn “ddi-waith” ar ôl gadael Cymru.

Mae’r sylwadau wedi bod yn dipyn o sioc i’r clwb yn Lloegr, sydd ar hyn o bryd yn cael eu hyfforddi gan Adrian Lam.

“Mae Wigan yn ymwybodol o’r sylwadau gan Shaun Edwards ynglŷn â’i drefniadau cytundebol ar gyfer y dyfodol,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Yn sgil diwedd y Chwe Gwlad a sylwadau Shaun, rydyn ni wedi ceisio cael trafodaeth gydag e yn uniongyrchol ers dydd Sul er mwyn iddo gadarnhau wrth Wigan beth yw ei amcanion.”