Cymru 25–7 Iwerddon

Mae Cymru wedi ennill y Gamp Lawn a Phencampwraeth y Chwe Gwlad ar ôl trechu Iwerddon yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd cais cynnar Parkes a chicio cywir Anscombe yn ddigon i’r Cymry ennill yn gyfforddus a sicrhau y bencampwriaeth yn nhymor olaf Warren Gatland wrth y llyw.

Cafwyd munud o dawelwch er cof am y bywydau a gollwyd yn ddiweddar yn Seland Newydd cyn y gêm, a dau chwaraewr yn enedigol o’r wlad honno a gyfunodd ar gyfer cais cyntaf Cymru wedi 70 eiliad. Cic ddeallus Gareth Anscombe, rhediad deallus a dwylo cywir Hadleigh Parkes a Chymru ar y blaen.

Bu rhaid i Anscombe symud i safle’r cefnwr wedi hynny oherwydd anaf i George North ond parhaodd i gael argraff ar y gêm a pharhaodd i gicio’n gywir at y pyst. Ychwanegodd dair cic gosb arall cyn yr egwyl i ymestyn mantais y tîm cartref i un pwynt ar bymtheg.

Roedd Cymru’n amlwg yn ennill y frwydr yn ardal y dacl yng ngolwg y dyfarnwr, Angus Gardner, ac ymestynnodd Anscombe y fantais y tu hwnt i dair sgôr gyda dwy gic gosb arall cyn yr awr, 22-0 o blaid Cymru.

Ychwanegodd dri phwynt arall i roi’r gêm y tu hwnt i unrhyw amheuaeth cyn i Jordan Larmour groesi am gais cysur i’r Gwyddelod.

Wnaeth hynny ddim amharu ar ddathliadau’r Cymry wrth i Gatlan ennill ei drydedd Camp Lawn gyda’r tîm.

.

Cymru

Cais: Hadleigh Parkes 2’

Trosiad: Gareth Anscombe 3’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 18’, 36’, 40’, 49’, 54’, 74’

.

Iwerddon

Cais Jordan Larmour 80’

Trosiad: Jack Carty 80’