Mae pobol o bob cwr o Gymru a phob agwedd ar fywyd yng Nghymru’n dymuno’n dda i’r tîm rygbi heddiw, wrth iddyn nhw fynd am y Gamp Lawn.

Heddiw yw diwrnod olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth i Gymru herio Iwerddon yng Nghaerdydd am 2.45yp.

Byddai buddugoliaeth yn sicrhau’r Gamp Lawn i dîm Warren Gatland am y tro cyntaf ers 2008.