Mae un o gyn-chwaraewyr Cymru wedi canmol Warren Gatland am newid sut mae rygbi yng Nghymru yn cael ei ystyried.
Cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni fydd un olaf y prif hyfforddwr presennol, sydd wedi bod yn arwain y crysau cochion ers 12 mlynedd.
Fe all yr ymadawiad fod yn un melys iddo, gyda buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn (Mawrth 16) yn golygu y bydd Cymru’n cipio’r Goron Driphlyg.
Dyma fydd y trydydd tro i Warren Gatland arwain tîm Cymru at lwyddiant o’r fath, gan ddilyn y buddugoliaethau yn 2008 a 2012.
“Newid seicoleg”
Mae disgwyl i Warren Gatland gamu o’r neilltu ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Siapan yn yr hydref.
Yn ôl cyn-asgellwr Cymru, Sam Warburton, does dim dadlau ynghylch yr effaith mae’r gŵr o Seland Newydd wedi ei gael ar rygbi’r wlad.
“Mae bellach yn normal i ddisgwyl ennill cystadleuaeth y Chwe Gwlad yn flynyddol,” meddai. “Mae wedi newid seicoleg tîm Cymru a’r cyhoedd.
“Mae’r statws o fod yn dangyflawnwyr bellach wedi mynd. Dydych chi ddim eisiau bod yn dangyflawnwr.
“Mae’n rhaid gweithio’n galed i fod ar y brig, ac mae [Warren Gatland] wedi llwyddo i gael y bechgyn a’r cyhoedd yn y cyflwr meddwl hwnnw.
“Maen nhw [y cyhoedd] yn disgwyl cymaint o dîm Cymru, ac mae hynny diolch i Warren.”