Gleision 26–19 Southern Kings

Roedd buddugoliaeth bwynt bonws i’r Gleision wrth iddynt groesawu’r Southern Kings i Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar ei hôl hi yn gynnar y yr ail hanner ond yn ôl y daethant gyda cheisiau Williams, Robinson a Harries yn sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws.

Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan groesodd Owen Lane am gais nodweddiadol ar yr asgell i roi’r Gleision ar y blaen.

Cyfartal a oedd hi erbyn hanner amser serch hynny diolch i gais Dries van Schalkwyk dri munud cyn yr egwyl, saith pwynt yr un wrth droi.

Aeth yr ymwelwyr o Dde Affrica ar y blaen gyda chais Mike Willemse yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i’r Gleision daro nôl gyda chais yr un i aelodau’r rheng ôl, Nick Williams ac Olly Robinson.

Sicrhaodd cais Jason Harries y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r Gleision dri munud o’r diwedd gan olygu mai sgôr gysur yn unig a oedd trosgais hwyr Masixole Banda i’r Kings.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bedwerydd yn nhabl adran A, ar yr un nifer o bwyntiau a Connacht sydd yn drydydd.

.

Gleision

Ceisiau: Owen Lane 2’, Nick Williams 51’, Olly Robinson 62’, Jason Harries 77’

Trosiadau: Jarrod Evans 3’, 63’, 78’

Cerdyn Melyn: Nick Williams 33’

.

Southern Kings

Ceisiau: Dries van Schalkwyk 37’, Mike Willemse 43’ Masixole Banda 80’

Trosiadau: Sarel Pretorius 38’, Masixole Banda 80’

Cerdyn Melyn: Tertius Kruger 72’