Mae Jarrod Evans, maswr ifanc y Gleision, wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r rhanbarth.

Mae e’n aelod pwysig o’r garfan erbyn hyn, ac yn aelod o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae e wedi chwarae 58 o weithiau i’r Gleision, ac yn cael ei ystyried yn un o’r maswyr ymosodol gorau yn y PRO14.

“Dyma fy rhanbarth cartref a dw i’n amlwg yn hapus iawn yma, felly roedd yn benderfyniad syml i roi pen ar bapur,” meddai.

“Fe wnaethon ni ddangos y tymor diwethaf, drwy ennill y Gwpan Her, yr hyn y gallwn ni ei wneud a’r potensial sydd gyda ni yn y Gleision.

“Dw i’n teimlo ein bod ni’n gwella ac mae gyda ni lawer o chwaraewyr ifainc yn dod drwy’r rhengoedd i ychwanegu at y pennau mwy profiadol.

“Mae’n lle cyffrous i fod a gyda’r math o rygbi rydyn ni’n trio ei chwarae a’r awyrgylch sydd gyda ni, dyma’r lle gorau i fi barhau i ddatblygu.

“Mae gyda ni gemau enfawr yn dod i fyny y tymor hwn, gan ddechrau ddydd Sadwrn gyda’r Kings, ac rydyn ni’n benderfynol o sicrhau lle ymhlith y tri uchaf a sicrhau lle yng Nghwpan Pencampwyr Heineken.”