Caeredin 34–17 Dreigiau

Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt deithio i Murrayfield i wynebu Caeredin yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Croesodd y tîm cartref am bump cais i ennill yn gyfforddus yn y diwedd er gwaethaf hanner cyntaf addawol gan yr ymwelwyr o Gymru.

Cafwyd toreth o geisiau yn y chwarter agoriadol wrth i ganolwr ochr agored y ddau dîm groesi am ddau yr un yn yr ugain munud cyntaf.

Agorodd James Johnstone y sgorio i’r Albanwyr, yn gorffen yn dda yn dilyn bylchiad gwreiddiol Chris Dean.

Cyfnewidiodd yntau a Tyler Morgan gais yr un wedi hynny cyn i Morgan ryng-gipio pas Jaco van der Walt yng nghanol y cae i groesi am ei ail ac unioni’r sgôr hanner ffordd trwy’r hanner.

Ac yn wir, y Dreigiau a oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gic gosb o droed Josh Lewis, 14-17 y sgôr wrth droi.

Os oedd y deugain munud cyntaf yn agos, dim ond un tîm a oedd ynddi yn yr ail. Rheolodd Caeredin gan groesi am dri chais i ennill y gêm yn gyfforddus, un i Magnus Bradbury a dau i Duhan van Der Merwe.

Cyntaf van Der Merwe a oedd yr uchafbwynt, cais unigol da er y gellid cwestiynu amddiffyn y Dreigiau wrth i’r asgellwr o Dde Affrica dorri drwy sawl tacl cyn croesi.

Mae’r Dreigiau’n aros yn chweched yn nhabl adran B er gwaethaf y golled gan i’r Southern Kings, sydd ar y gwaelod, golli’n drwm ym Munster.

.

Caeredin

Ceisiau: James Johnstone 8’, 16’, Magnus Bradbury 64’, Duhan van Der Merwe 69’ 79’

Trosiadau: Jaco van Der Walt 10’, 16’, 65’

Cic Gosb: Jaco van Der Walt 56’

.

Dreigiau

Ceisiau: Tyler Morgan 12’, 19’

Trosiadau: Josh Lewis 13’, 20’

Cic Gosb: Josh Lewis 26’