Gweilch 0–8 Ulster

Ulster a aeth â hi wrth i’r Gwyddelod ymweld â Chae’r Bragdy ym Mhen-y-bont i herio’r Gweilch yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe greosodd yr ymwelwyr am unig gais y gêm yn gynnar yn yr ail hanner. Stuart McClocskey a gafodd y cais, un syml yn y diwedd wedi i’r bêl adlamu i’w lwybr wrth y llinell gais ond rhediad da’r canolwr yn gynharach yn y symudiad a greodd y cyfan.

Felly yr arhosodd hi tan funud olaf y gêm pan gafodd yr ymwelwyr gic gosb wrth y llinell hanner. Ac er mai gwastraffu’r eiliadau olaf cyn i’r cloc droi’n goch a sicrhau bod y bêl yn gadael tir y chwarae a oedd prif fwriad John Cooney gyda’r gic, fe wnaeth hynny gan ei hanelu trwy ganol y pyst! 0-8 y sgôr terfynol felly a dim hyd yn oed pwynt bonws i’r Gweilch.

Mae’r Gweilch yn aros yn drydydd yn adran A er gwaethaf y golled ond gall hyd at dri thîm eu pasio wedi gemau dydd Sadwrn.

.

Ulster

Cais: Stuart McCloskey 47’

Trosiad: John Clooney 80’