Mae cefnwr Cymru’n rhybuddio bod yn rhaid mynd ati o ddifrif am 80 munud llawn os am sicrhau buddugoliaeth yn Rhufain heno.

Mae Liam Williams un o’r pump yn unig o’r tîm a gurodd Ffrainc yr wythnos ddiwethaf i gael eu dewis i gychwyn ail gêm bencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad yn erbyn yr Eidal yn Stadio Olimpico.

Er mai Cymru yw’r ffefrynnau i ennill, rhaid peidio â chymryd dim byd yn ganiataol, meddai.

“Fe wnaethon ni chwarae’n wael iawn yn yr hanner cyntaf yn erbyn Ffrainc ond yn llawer gwell yn yr ail hanner,” meddai.

“Yr wythnos yma, mae angen inni chwarae am yr 80 munud llawn.

“Os yw’r cyfleoedd i sgorio pedwar cais yn codi, yna rhaid inni eu cymryd nhw – fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau i gael pwynt bonws.

“Dw i ddim yn meddwl fod y ffaith nad ydyn nhw wedi ennill ers amser maith yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr i’r gêm.

“Fe wnaeth yr Eidal chwarae’n dda iawn yn yr ail hanner yn erbyn yr Alban a dod yn ôl ar y diwedd un. Mae hyn yn dangos unwaith eto fod yn rhaid inni chwarae am 80 munud, ac nid 40.”

Mae carfan Cymru o 31 dyn wedi bod wrthi’n ymarfer am bum niwrnod ar y Cote d’Azur yn gynharach yr wythnos yma.

Fe fydd y gêm i’w gweld yn fyw ar S4C, gyda rhaglen y Clwb Rygbi Rhyngwladol yn cychwyn am 4.00 ar gyfer y gic gyntaf am 4.45.