Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr rygbi Cymru, yn dweud eu bod nhw wedi “anghofio sut mae colli”, wedi iddyn nhw guro Ffrainc o 24-19 yn Paris neithiwr (nos Wener, Chwefror 1).

Roedd y Ffrancwyr ar y blaen o 16-0 ar yr hanner, cyn i Gymru frwydro i gipio’r fuddugoliaeth.

Dyma’u degfed buddugoliaeth o’r bron – eu rhediad gorau o fuddugoliaethau ers 1999 – a’u seithfed dros y Ffrancwyr mewn wyth o gemau.

“I fi, y gwahaniaeth mawr rhwng y ddau dîm yw ein bod ni wedi dod yn dîm sydd fwy na thebyg wedi anghofio sut mae colli, ac yn gallu palu’n ddwfn,” meddai Warren Gatland.

“Ar y llaw arall, maen nhw fwy na thebyg yn dîm sy’n chwilio am hyder, gan nad ydyn nhw wedi cael rhediad da dros y saith neu wyth o gemau diwethaf.

“Ry’n ni’n gwybod y byddan ni’n gwella po fwyaf o amser gewn ni gyda’n gilydd. Er mwyn ennill y gystadleaueth hon, mae angen rhywfaint o lwc arnoch chi.”

Y pwyntiau

Roedd gan y Ffrancwyr flaenoriaeth o 16 pwynt erbyn yr egwyl, wedi i Louis Picamoles a Yoann Huget groesi am gais yr un.

Ond brwydrodd Cymru i sgorio dau gais, y naill gan y mewnwr Tomos Williams a’r llall gan yr asgellwr George North.

Erbyn hynny, roedden nhw ar y blaen o 17-16, ac fe gipiodd Cymru’r fuddugoliaeth pan rhyng-gipiodd George North i groesi am ei ail gais.

Gweddill y gystadleuaeth

Bydd Cymru’n aros yn Ffrainc am y tro, cyn teithio i Rufain i herio’r Eidal yr wythnos nesaf.

Wedyn bydd ganddyn nhw gemau cartref yn erbyn Lloegr ac Iwerddon, ac un oddi cartref yn yr Alban.

“Creu dyfnder yw’r holl beth ers dwy flynedd,” meddai Warren Gatland. “Ry’n ni’n ceisio ailgreu’r hyn a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni (aros oddi cartref yng Nghwpan y Byd).

“Hoffen ni pe bai chwaraewyr eraill yn cael cyfle’r wythnos nesaf. Efallai y bydd rhai yn dechrau, a rhai ar y fainc.”