Dreigiau 7–8 Munster

Colli mewn gêm glos a oedd hanes y Dregiau wrth iddynt groesawu Munster i Rodney Parade yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Gyda llu o chwaraewyr gorau’r gwrthwynebwyr yng ngharfan Chwe Gwlad Iwerddon, roedd hanner cyfle i’r Dreigiau gipio buddugoliaeth brin, ond yr ymwelwyr aeth â hi yn y diwedd er mai cael a chael oedd hi.

Dechreuodd y Dreigiau’n dda ac roeddynt ar y blaen wedi chwarter awr, y prop, Lloyd Fairbrother, yn plymio drosodd ar ôl i’w dîm fynd trwy’r cymalau’n daclus, 7-0 y sgôr wedi trosiad Josh Lewis.

Ciciodd Bill Johnston bwyntiau cyntaf Munster wedi hynny ond roedd y Dreigiau bedwar pwynt ar y blaen wrth droi.

Roedd y Gwyddelod yn llawer gwell wedi’r egwyl ac roedd y cais yn teimlo’n anochel. Fe ddaeth hwnnw yn y diwedd toc wedi’r awr, y clo, Jean Kleyn yn cyrraedd y gwyngalch wedi meddwl chwim a chic gosb gyflym Johnston.

Cafodd Lewis gyfle euraidd i’w hennill hi i’r Dreigiau wedi hynny ond methodd gyda chyfle cymharol hawdd tuag at y pyst, 7-8 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn chweched yn nhabl cyngres B y Pro14.

.

Dreigiau

Ceisiau: Lloyd Fairbrother 14’

Trosiadau: Josh Lewis 15’

Cerdyn Melyn: Matthew Screech 56’

.

Muntser

Ceisiau: Jean Kleyn 63’

Ciciau Cosb: Bill Johnston 30’