Leinster 22–17 Scarlets

Leinster a aeth â hi wrth i’r Scarlets ymweld â’r RDS i herio’r Gwyddelod yn adran B y Guinness Pro14 nos Wener.

Croesodd y tîm cartref am dri chas wrth i’r ymwelwyr o Gymru orfod bodloni ar bwynt bonws yn unig.

Sefydlodd y Gwyddelod ddeg pwynt o fantais erbyn hanner amser. Roedd Ciaran Frawley eisoes wedi llwyddo gyda chic gosb pan droellodd Rory O’Loughlin trwy amddiffyn y Scarlets ac ymestyn at y gwyngalch yn eiliadau olaf yr hanner.

Roedd y sgôr yn gyfartal erbyn hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i gais Kieran Hardy a phum pwynt o droed Dan Jones.

Ymatebodd Leinster gyda dau gais eu hunain mewn cyfnod o dri munud, y naill i James Lowe a’r llall Barry Daly.

Rhoddodd trosiad Frawley o gais Daly ddeuddeg pwynt o fantais i’r Gwyddelod gyda saith munud yn weddill.

Roedd hi’n rhy hwyr i Fois y Sosban ddod yn ôl i’w hennill hi ond roedd ail gais y mewnwr, Hardy, yn ddigon i gipio pwynt bonws i’r Cymry.

Mae’r canlyniad yn cadw Leinster yn gyfforddus ar frig adran B. Mae pethau’n llawer agosach rhwng y pedwar tîm wedi hynny, gyda’r Scarlets yn aros yn bedwerydd.

.

Leinster

Ceisiau: Rory O’Loughlin 40’, James Lowe 69’, Barry Daly 72’

Trosiadau: Ciaran Frawley 40’, 74’

Ciciau Cosb: Ciaran Frawley 31’

.

Scarlets

Ceisiau: Kieran Hardy 52’, 75’

Trosiadau: Dan Jones 53’, 75’

Cic Gosb: Dan Jones 60’