Glasgow 9–3 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt deithio i Scotstoun i herio Glasgow yn adran A y Guinness Pro14 nos Wener.

Gêm ddiflas oedd hi heb yr un cais ond roedd cicio cywir y maswr cartref, Brandon Thompson, yn ddigon i’w hennill hi i’r Albanwyr yn y diwedd.

Ar noson wlyb a gwyntog, roedd yr elfennau o blaid y Gweilch yn yr hanner cyntaf ac er i Sam Davies lwyddo gydag un gic gosb, fe fethodd gyda dau gynnig arall at y pyst a thri phwynt yn unig a oedd ynddi wrth droi.

Unionodd cic gosb Brandon Thompson bethau yn gynnar yn yr ail gyfnod wrth i’r tîm cartref ymateb yn dda.

Ychwanegodd y gŵr o Dde Affrica ddwy arall mewn cyfnod o dri munud hanner ffordd trwy’r hanner, yr ail yn fynydd o gic o’i hanner ei hun.

Gyda Niko Matawalu’n gorffen y gêm yn y gell gosb i Glasgow, fe bwysodd y Gweilch am gais a fyddai wedi ennill y gêm iddynt yn y munudau olaf ond daliodd Glasgow eu gafael.

Mae’r canlyniad yn codi’r Albanwyr i frig adran A, dros dro o leiaf, ac mae’r pwynt bonws yn ddigon i godi’r Gweilch i’r trydydd safle.

.

Glasgow

Ciciau Cosb: Brandon Thompson 43’, 61’, 63’

Cerdyn Melyn: Nikola Matawalu 71’

.

Gweilch

Cic Gosb: Sam Davies 32’