Mae disgwyl Kristian Dacey ddychwelyd i gapteinio’r Gleision yn y gêm PRO14 yn erbyn Connacht dros y penwythnos.

Roedd y bachwr rhyngwladol yn dioddef o anaf i’w ysgwydd, ac mae’n un o’r wyth o newidiadau sydd wedi’u gwneud i dîm y clwb rhanbarthol ers y fuddugoliaeth yn erbyn Lyon yng Nghwpan Pencampwriaeth Heineken yr wythnos ddiwethaf.

Bydd Shane Lewis-Hughes, sydd wedi ymddangos yng nghrys y clwb ar gyfer y gemau yn erbyn y Glasgow Warriors a Lyon yn ddiweddar, yn dechrau am y tro cyntaf mewn gêm gynghrair, ynghyd ag Olly Robinson a Nick Williams yn y rheng ôl.

Mae Olly Robinson am wisgo’r crys rhif saith, gan gymryd lle Josh Navidi sydd i ffwrdd yn hyfforddi gyda charfan Cymru, ac mae Brad Thyer a George Earle wedi’u cynnwys yn y tîm hefyd.

Mae disgwyl i Steven Shingler a Lloyd Williams wedyn i ffurfio partneriaeth fel mewnwr a maswr, tra bo Matthew Morgan hefyd yn ymuno â’r cefnwyr.

“Cyfle”

Mae Connacht ar hyn o bryd bum pwynt o flaen y Gleision yng Nghyfadran A y PRO14.

Yn ôl hyfforddwr y clwb o Gaerdydd, John Mulvihill, mae’r chwaraewyr wedi cael “wythnos dda” o baratoi ar gyfer gêm y penwythnos.

“Dyma ein cyfle cyntaf i roi her go iawn i Connacht, ac os ydyn ni’n ennill y gêm hon fe fyddwn, yn sicr, yn agos at y drydedd safle,” meddai. “Ond os ydyn ni’n colli, rydyn ni’n wynebu  gorfod ennill tir o rhwng wyth i 10 pwynt.”

“Fel ni, maen nhw [Connacht] wedi colli ambell chwaraewr oherwydd galwadau rhyngwladol, ond mae ein dyfnder mewn cyflwr da yn y rhannau hynny a dw i’n credu y gallwn gael gêm dda.”

Y garfan:-

Matthew Morgan; Owen Lane, Harri Millard, Rey Lee-lo, Aled Summerhill; Steven Shingler, Lloyd Williams; Brad Thyer, Kristian Dacey (c), Dimitri Arhip, George Earle, Rory Thornton, Shane Lewis-Hughes, Olly Robinson, Nick Williams.

Ar y fainc:-

Liam Belcher, Rhyd Carré, Scott Andrews, Macauley Cook, James Botham, Lewis Jones, Dan Fish, Willis Haholo.

Bydd modd gwylio’r gêm yn fyw ar S4C, gyda disgwyl iddi gychwyn am 5.15yh nos Sadwrn (Ionawr 26).