Pau 26–21 Gweilch

Daeth gobeithion main y Gweilch o gyrraedd wyth olaf Cwpan Her Ewrop i ben wrth iddynt golli yn erbyn Pau yn y Stade du Hameau brynhawn Sadwrn.

Roedd angen buddugoliaeth bwynt bonws a chanlyniadau eraill i fynd o’u plaid ar y Gweilch ond nid felly y bu wrth i’r tîm cartref ennill mewn gêm agos yng ngrŵp 2.

Un cais yn unig a gafwyd yn yr hanner cyntaf, yr asgellwr cartref, Vincent Pinto yn canfod digonedd o le i groesi ddeuddeg munud cyn yr egwyl.

Roedd yr ail hanner yn llawer mwy cyffrous ac roedd y Gweilch yn gyfartal o fewn munud diolch i draed cyflym y canolwr, Tiaan Thomas-Wheeler.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn fuan wedi hynny wrth i Sam Davies ryddhau John-Ben Kotze am y cyntaf o ddau gais.

Daeth ail y canolwr ar yr awr wedi cyd chwarae da gyda Matthew Aubrey ond roedd sgôr yr un i Daniel Ramsay a Pierre Nueno o bobtu’r cais hwnnw i Pau a chyfartal oedd pethau gyda chwarter awr yn weddill, 21 pwynt yr un.

Erbyn hynny, roedd pwynt bonws Caerwrangon yn erbyn Stade Francais wedi sicrhau na fyddai’r Gweilch yn gorffen ar frig y grŵp ond byddai cais a buddugoliaeth bwynt bonws wedi cadw’u gobeithion yn fyw o symud ymlaen fel un o’r timau gorau yn yr ail safle.

Ond, Pau yn hytrach a gafodd sgôr olaf y gêm gyda chais Laurent Bouchet yn ei hennill hi i’r Ffrancwyr chwe munud o’r diwedd.

Mae’r Gweilch yn gorffen grŵp 2 yn ail er gwaethaf y golled ond ni fydd tri phwynt ar ddeg yn ddigon am le yn y rownd go-gynderfynol.

.

Pau

Ceisiau: Vincent Pinto 28’, Daniel Ramsay 59’, Pierre Nueno 64’, Laurent Bouchet 74’

Trosiadau: Antoine Hastoy 29’, 60’, 65’

Cerdyn Melyn: Beptiste Pesenti 38’

.

Gweilch

Ceisiau: Tiaan Thomas-Wheeler 41’, John-Ben Kotze 46’, 61’

Trosiadau: Sam Davies 42’, 47’, 62’