Dreigiau 7–49 Clermont Auvergne

Daeth ymgyrch siomedig y Dreigiau yng Nghwpan Her Ewrop i ben gyda chrasfa gan Clermont Auvergne gartref ar Rodney Parade nos Wener.

Croesodd y Ffrancwyr am saith cais i orffen grŵp 1 gyda 30 pwynt, y cyfanswm mwyaf posib.

Sgoriodd Patricio Fernandez gais cyntaf yr ymwelwyr yn y deg munud cyntaf cyn ychwanegu’r trosiad hefyd. Yna, gydag Aaron Wainwright yn y gell gosb i’r Dreigiau, fe ychwanegodd Alexandre Fischer a Paul Jedrasiak ddau arall i’r Ffrancwyr.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel wedi ychydig dros chwarter y gêm diolch i’r cyntaf o ddau gais Remy Grosso. Daeth ail yr asgellwr ychydig funudau’n ddiweddarach, 0-35 y sgôr wrth droi.

Tawelodd y sgorio wedi’r egwyl ond fe wnaeth Clermont ychwanegu dau arall at eu casgliad, un i Peter Betham ac ail o’r noson i Jedrasiak.

Sgoriodd Jordan Williams gais cysur hwyr i’r Dreigiau hefyd ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hynny.

Mae’r Dreigiau yn gorffen grŵp 1 yn y trydydd safle diolch i ddwy fuddugoliaeth yn erbyn y Rwmaniaid, Timisoara Saracens.

.

Dreigiau

Cais: Jordan Williams 77’

Trosiad: Josh Lewis 78’

Cerdyn Melyn: Aaron Wainwright 11’

.

Clermont Auvergne

Ceisiau: Patricio Fernandez 9’, Alexandre Fischer 13’, Paul Jedrasiak 16’, 74’, Remy Grosso 22’, 30’, Peter Betham 57’

Trosiadau: Patricio Fernandez 9’, 14’, 17’, 23’, 30’, 58’, 75

Cerdyn Melyn: Paul Jedrasiak 39’