Scarlets 22–11 Dreigiau

“West is best” a oedd hi yn y Guinness Pro14 ddydd Sadwrn, wrth i fuddugoliaeth y Gweilch yn erbyn y Gleision gael ei dilyn gan fuddugoliaeth i’r Scarlets dros y Dreigiau.

Croesodd Ioan Nicholas a Sam Hidalgo-Clyne am geisiau ail hanner i’r tîm cartref, i’w hychwanegu at ddeuddeg pwynt o droed Dan Jones ar Barc y Scarlets.

Ciciau cosb yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar yr egwyl, Jones yn llwyddo gyda phedair i’r Scarlets a Josh Lewis gydag un i’r Dreigiau, 12-3 y sgôr wrth droi.

Caeodd Lewis y bwlch i chwe phwynt gyda thri phwynt arall yn gynnar yn yr ail gyfnod ond bu rhaid aros tan toc cyn yr awr am gais cyntaf y gêm. Nicholas a gafodd hwnnw, asgellwr y Scarlets yn croesi yn dilyn symudiad slic gan yr olwyr wedi meddiant glân o lein ar y llinell 22 medr.

Roedd buddugoliaeth Bois y Sosban yn ddiogel bum munud o’r diwedd pan groesodd Hidalgo-Clyne am ail gais ei dîm.

Golygodd hynny mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr James Benjamin i’r Dreigiau, ond am gais! Symudiad tîm gwych gyda digon o ddadlwytho taclus yn gorffen y gêm mewn steil, 22-13 y sgôr wedi trosiad Jason Tovey.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets i’r trydydd safle yn adran B y Pro14 ac yn cadw’r Dreigiau’n chweched.

.

Scarlets

Ceisiau: Ioan Nicholas 57’, Sam Hidalgo-Clyne 75’

Ciciau Cosb: Dan Jones 4’12’, 38’, 40’

.

Dreigiau

Cais: James Benjamin 80’

Trosiad: Jason Tovey 80’

Ciciau Cosb: Josh Lewis 31’, 48’

Cerdyn Melyn: Dan Suter 40’