Gweilch 20–11 Gleision

Y Gweilch a aeth â hi wrth iddynt groesawu’r Gleision i’r Liberty yn y frwydr Gymreig yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Dau o newydd-ddyfodiaid y Gweilch a wnaeth y gwahaniaeth wrth i geisiau hanner cyntaf yr olwyr rhyngwladol, Scott Williams a George North, ei hennill hi i’r tîm cartref yn y diwedd.

Tri munud yn unig a oedd ar y cloc pan lithrodd Williams am gais cyntaf y gêm, ei gais cyntaf i’r Gweilch.

Am dri munud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i’r Gleision daro nôl gyda chais ei hunain, Garyn Smith yn sgorio’n y gornel wedi cic letraws berffaith Gareth Anscombe.

Cic letraws a arweiniodd at ail gais y Gweilch hanner ffordd trwy’r hanner hefyd, Sam Davies yn creu i North y tro hwn.

Ychwanegodd Davies y trosiad i ymestyn mantais y tîm cartref i naw pwynt ond roedd y Gleision yn ôl ynddi ar yr egwyl diolch i gic olaf yr hanner, cic gosb gan Anscombe, 14-8 y sgôr wrth droi.

Cyfnewidiodd Davies ac Anscombe gic gosb yr un yn hanner cyntaf yr ail hanner wrth iddi aros yn agos.

Dal eu gafael a wnaeth y Gweilch serch hynny gan amddifadu’r Gleision o hyd yn oed bwynt bonws gyda gôl adlam hwyr Davies, 20-11 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i’r trydydd safle yn adran A y Pro14 ac yn cadw’r Gleision yn bumed.

.

Gweilch

Ceisiau: Scott Williams 3’, George North 20’

Trosiadau: Sam Davies 4’, 22’

Cic Gosb: Sam Davies 52’

.

Gleision

Cais: Garyn Smith 6’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 40’, 59’