Mi fydd cefnwr tîm rygbi Cymru a’r Scarlets, Leigh Halfpenny yn gweld arbenigwr ynglŷn â chyfergyd sydd wedi ei atal rhag chwarae am dros ddeufis.

Bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cychwyn mewn llai na mis ac mae marc cwestiwn tros ffitrwydd un o chwaraewyr gorau’r wlad.

Nid yw Leigh Halfpenny wedi chwarae i Gymru ers mis Tachwedd llynedd ar ôl dioddef cyfergyd yn erbyn  Awstralia.

Fe gafodd arbenigwr cicio Cymru dacl hwyr gan ganolwr Awstralia, Samu Kerevi, mewn gêm a orffennodd yn 9-6 i Gymru yn Stadiwm y Principality ar Dachwedd 10 llynedd.

Cafodd y dacl ei disgrifio fel un “frawychus” gan hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ar y pryd.

Roedd Leigh Halfpenny wedi cael ei enwi yn nhîm Scarlets i wynebu Gleision Caerdydd ddydd Sadwrn diwethaf (Rhagfyr 29, 2018), ond bu rhaid iddo ildio’i le oherwydd cur pen.

Ddim am gymryd risg

“Mae [Lee Halfpenny] yn teimlo’n rhwystredig iawn,” meddai hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac.

“Mae’n gweld arbenigwr, a gobeithio y bydd yn rhoi amserlen iddo ddod yn ôl i chwarae. Fe fyddwn ni’n gwybod mwy’r wythnos nesaf yn gobeithio.

Mae ymgyrch Chwe Gwlad Cymru yn cychwyn yn erbyn Ffrainc ym Mharis ar ddydd Gwener, Chwefror 1.