Scarlets 5–34 Gleision

Rhoddodd y Gleision grasfa iawn i’r Scarlets yn y gêm rhwng y ddau ranbarth o Gymru yn y Guinness Pro14 ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.

Sgoriodd yr ymwelwyr dri chais yn chwarter olaf y gêm i sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn y gŵyr o’r gorllewin.

Rhoddodd cic gosb Gareth Anscombe yr ymwelwyr ar y blaen cyn i ddadlwythiad da Blaine Scully arwain at gais agoriadol y gêm i Lloyd Williams, 0-10 y sgôr wedi deg munud diolch i drosiad Anscombe.

Arweiniodd dadlwythiad gwych arall at gais arall wrth i’r Scarlets daro nôl yn syth, Will Boyde yn creu i Johnny McNicholl y tro hwn.

Bu rhaid aros tan ugain munud olaf y gêm am y sgôr nesaf wrth i’r ddau ganolwr y Gleision gyfuno am sgôr daclus, Willis Halaholo’n bylchu a Rey Lee-Lo’n croesi.

Croesodd Lee-Lo am ei ail ef a thrydydd ei dîm bedwar munud o’r diwedd cyn i Ansocombe sicrhau’r pwynt bowns gyda’r pedwerydd, 5-34 y sgôr terfynol.

Mae’r Gleision yn aros yn bumed yn adran A y Pro14 er gwaethaf y fuddugoliaeth ond mae’r Scarlets yn llithro i’r pedwerydd safle yn adran B.

.

Scarlets

Cais: Johnny MicNicholl 12’

.

Gleision

Ceisiau: Lloyd Williams 10’, Rey Lee-Lo 62’, 76’, Gareth Asncombe 79’

Trosiadau: Gareth Anscombe 12’, 63’, 78’, 80’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 9’, 71’