Gweilch 19–12 Scarlets

Sgoriodd Luke Morgan unig gais y gêm wrth i’r Gweilch drechu’r Scarlets yng ngêm ddarbi gorllewin Cymru yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Ychwanegodd Sam Davies weddill y pwyntiau, gan gynnwys dwy gôl adlam, wrth i’r tîm cartref ennill ar y Liberty.

Y Scarlets a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond tri phwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r timau ar yr egwyl. Ciciodd Sam Davies ddwy gic gosb i’r Gweilch ond llwyddodd Rhys Patchell gyda thair i Fois y Sosban, 6-9 y sgôr wrth droi.

Roedd y Gweilch yn well yn yr ail hanner ac roeddynt ar y blaen toc cyn yr awr diolch i gais unigol da Luke Morgan, yr asgellwr yn gyflymach na phawb wrth wibio dros y llinell gais ar ôl cicio pêl rydd ymlaen rhwng y llinell deg medr a’r dau ar hugain.

Llwyddodd Davies gyda’r trosiad cyn ychwnaegu dwy gôl adlam ddeallus i ymestyn mantais y tîm cartref i ddeg pwynt gyda chwarter awr yn weddill.

Rhoddodd cic gosb Dan Jones yr ymwelwyr yn ôl o fewn cyrraedd wyth munud o’r diwedd a bu rhaid i’r Gweilch amddiffyn yn ddewr wedi hynny hefyd. Ond dal eu gafael a wnaethant gan sicrhau buddugoliaeth brin dros eu gelynion pennaf.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i’r trydydd safle yn Adran A y Pro14 tra mae’r Scarlets yn llithro i’r trydydd safle yn Adran B.

.

Gweilch

Cais: Luke Morgan 58’

Trosiad: Sam Davies 59’

Ciciau Cosb: Sam Davies 8’, 15’

Gôl Adlam: Sam Davies 61’, 66’

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 6’, 11’, 27’, Dan Jones 72’