Gleision 19–16 Dreigiau

Bu rhaid i’r Gleision aros tan gic olaf y gêm i drechu pedwar dyn ar ddeg y Dreigiau yn y gêm ddarbi Guinness Pro14 ar Barc yr Arfau nos Wener.

Bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae dros hanner y gêm gydag un dyn yn llai wedi cerdyn coch Fairbrother ond bu rhaid iddynt aros tan yr eiliadau olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda thri phwynt Anscombe.

Hanner Cyntaf

Bu rhaid i’r Dreigiau chwarae deg munud gyda phedwar dyn ar ddeg yn gynnar yn y gêm yn dilyn tacl beryglus Zane Kirchner ar Blaine Scully.

Llwyddodd y Dreigiau, gyda help gwynt cryf, i amddiffyn yn eithaf cyfforddus gan ildio dim ond tri phwynt o droed Gareth Asncombe yn eu cyfnod gydag un dyn yn llai.

Roedd diffyd disgyblaeth yn broblem i’r ymwelwyr unwaith eto ddeg munud cyn yr egwyl, Lloyd Fairbrother yn arwain gyda’i ysgwydd yn ardal y dacl gan daro Dillon Lewis yn ei ben. Coch lliw y cerdyn y tro hwn.

Roedd y pedwar dyn ar ddeg ar y blaen erbyn er egwyl serch hynny diolch i Josh Lewis. Llwyddodd gyda gôl adlam o bellter bum munud cyn yr egwyl cyn ychwanegu cic gosb bedwar munud yn ddiweddarach, 3-6 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Unionodd Anscombe bethau gyda chic gosb ddeg munud ar ôl troi a buan iawn y daeth cais cyntaf y noson i’r tîm cartref. Dan Fish a gafodd hwnnw, y cefnwr yn elwa o bas daclus Olly Robinson i groesi am sgôr syml.

Cyfnewidiodd Lewis ac Anscombe gic gosb yr un wedi hynny a dim ond saith pwynt a oedd ynddi gyda chwarter awr yn weddill.

Yn groes i’r disgwyl efallai, cafodd pedwar dyn ar ddeg y Dreigiau gyfnod da wedi hynny gan unioni pethau gyda throsgais, Jarryd Sage yn hollti trwy’r amddiffyn ar ongl dda cyn i Jason Tovey ychwanegu’r trosiad.

A bu ond y dim i’r ymwelwyr ddal eu gafael ond arweiniodd cyfres o sgrymiau cryf gan bac y Gleision at dri phwynt o droed Anscombe gyda chic olaf y gêm, 19-16 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bumed yn Adran A a’r Dreigiau yn chweched yn Adran B y Pro14.

.

Gleision

Cais: Dan Fish 54’

Trosiad: Gareth Asncombe 55’

Ciciau Cosb: Gareth Asncombe 20’, 50’, 64’, 80’

.

Dreigiau

Cais: Jarryd Sage 73’

Trosiad: Jason Tovey 75’

Ciciau Cosb: Josh Lewis 35’, 59’

Gôl Adlam: Josh Lewis 39’

Cerdyn Melyn: Zane Kirchner 9’

Cerdyn Coch: Lloyd Fairbrother 31’