LlMae Stephen Jones a Jonathan Humphreys wedi’u penodi i staff hyfforddi prif hyfforddwr nesaf tîm rygbi Cymru, Wayne Pivac.

Byddan nhw’n ymuno â’r staff ar ôl Cwpan y Byd yn Japan y flwyddyn nesaf, pan fydd Warren Gatland yn camu o’r neilltu.

Bydd Stephen Jones yn gyfrifol am yr olwyr, tra bydd Jonathan Humphreys yn arwain y blaenwyr.

Fe fu Wayne Pivac a Stephen Jones yn cydweithio yn y Scarlets, tra bod Jonathan Humphreys yn hyfforddi yn yr Alban ers pum mlynedd.

Bydd yr hyfforddwr cicio Neil Jenkins a’r pennaeth perfformiad corfforol Paul Stridgeon yn parhau yn eu swyddi.

‘Blaengar’

Mae penodi’r ddau yn dangos agwedd “flaengar” gan Undeb Rygbi Cymru, yn ôl Wayne Pivac.

“Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn flaengar o ran cynllunio a recriwtio ar gyfer y cyfnod ar ôl Cwpan y Byd 2019, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i sicrhau a denu’r hyfforddwyr roedden ni am eu cael.

“Mae Stephen a Jonathan yn uchel eu parch, nid yn unig am yr hyn wnaethon nhw’n chwaraewyr ar y cae, ond hefyd yn ystod eu gyrfaoedd fel hyfforddwyr ac rwy wrth fy modd o’u cael nhw’n rhan o’n tîm ni.”

‘Braint’

Mae cael ei benodi’n “fraint”, meddai Stephen Jones, a hynny ar “adeg gyffrous i rygbi yng Nghymru”.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets am y cyfle rwy wedi’i gael gyda nhw ac am eu cefnogaeth barhaus.”

 

Dywed Jonathan Humphreys fod y cyfle i hyfforddi Cymru’n “un na allwn i fod wedi’i wrthod”.