Stade Francais 12–3 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt deithio i’r Stade Jean Bouin i herio Stade Francais yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.

Mewn gêm heb yr un cais, cicio cywir yr Archentwr, Nicolas Sanchez, a oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Chwe phwynt yn unig a gafwyd yn y deugain munud agoriadol, dwy gic gosb o droed Sanchez yn rhoi’r Ffrancwyr ar y blaen.

Cofnododd James Hook bwyntiau cyntaf y Gweilch yn yr ail hanner ond llwyddodd Sanchez gyda dwy i’r tîm cartref hefyd i’w rhoi ar y blaen o ddeuddeg pwynt i dri.

Cafodd Cai Evans gyfle i gipio pwynt bonws i’r ymwelwyr o Gymru gyda chic olaf y gêm ond heibio’r postyn yr aeth hi a bu rhaid iddynt ddychwelyd yn waglaw.

Mae’r Gweilch yn aros ar frig grŵp 2 er gwaethaf y canlyniad hwn ond gall hynny newid ddydd Sadwrn wrth i Gaerwrangon wynebu Pau mewn grŵp agos.

.

Stade Francais

Ciciau Cosb: Nicolas Sanchez 7’, 22’, 42’, 61’

.

Gweilch

Cic Gosb: James Hook 53’

Cerdyn Melyn: John-Ben Kotze 70’