Ulster 30–15 Scarlets
Mae rhediad gwael diweddar y Scarlets yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Ulster yn Stadiwm Kingspan nos Wener.
Roedd gobeithion Bois y Sosban yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop fwy neu lai ar ben pryn bynnag a daeth cadarnhad fathemategol o hynny wrth Ŵyr Ulster sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws yng ngrŵp 4.
Hanner Cyntaf
Rhoddodd cic gosb gynnar John Cooney Ulster ar y blaen, a’r tîm cartref a reolodd am rannau helaeth o’r hanner cyntaf.
Cynyddodd y pwysau ar amddiffyn y Scarlets wrth i’r hanner fynd yn ei flaen ac arweiniodd hynny yn y diwedd at gerdyn melyn i Wyn Jones.
A gyda dyn o fantais, fe ddaeth cais haeddiannol i’r Gwyddelod chwe munud cyn yr egwyl, Iain Henderson hyrddio drosodd o dan y pyst wedi cyfnod hir o bwyso gan y blaenwyr.
Daeth pwyntiau cyntaf Bois y Sosban cyn y chwiban hanner wrth i gic gosb Rhys Patchell gau’r bwlch i saith pwynt, 10-3 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Er ym mhell o fod ar eu gorau, roedd yr ymwelwyr o Gymru’n gyfartal wedi deg munud o’r ail hanner, Jonathan Davies yn sgorio yn y diwedd wedi rhyng-gipiad Gareth Davies, 10 pwynt yr un wedi trosiad Patchell.
Ymddengys i hynny ddeffro Ulster achos ymatebodd y tîm cartref yn syth gyda chais taclus, Jacob Stockdale ar yr asgell yn casglu cic daclus Billy Burns cyn tirio.
Rhoddodd tri phwynt o droed Cooney ddwy sgôr rhwng y timau cyn i’w drosiad o ail gais Henderson roi’r Gwyddelod allan o’r golwg toc wedi’r awr.
Trodd Ulster eu golygon at y pwynt bonws wedi hynny a daeth hwnnw o fewn dim wrth i Cooney dirio wedi hyrddiad nerthol arall gan y blaenwyr.
Roedd digon o amser ar ôl am gais cysur i’r Cymry, Tom Prydie’n tirio wedi cic ddeallus Dan Jones, ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi, 30-15 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn gadael y Scarlets ar waelod grŵp 4 heb fuddugoliaeth o’u pedair gêm gyntaf.
.
Ulster
Ceisiau: Iain Henderson 33’, 63’, Jacob Stockdale 51’, John Cooney 67’
Trosiadau: John Cooney 34’, 64’
Ciciau Cosb: John Cooney 9’ 58’
.
Scarlets
Ceisiau: Jonathan Davies 49’, Tom Prydie 78’
Trosiad: Rhys Patchell 50’
Cic Gosb: Rhys Patchell 39’
Cerdyn Melyn: Wyn Jones 29’