Gweilch 51–20 Stade Francais
Cododd y Gweilch i frig eu grŵp yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Stade Francais ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y tîm cartref chwe chais mewn buddugoliaeth bwynt bonws gyfforddus yn erbyn y Ffrancwyr yng ngrŵp 2.
Cyfnewidiodd Morne Steyn a Sam Davies gic gosb gynnar yr un cyn i Dan Evans groesi am gais agoriadol y gêm i’r Gweilch.
Ymatebodd Stade gyda chais Jimmy Yobo cyn i Cory Allen sgorio ail y tîm cartref. Ciciodd Davies dri phwynt ar ddeg yn yr hanner cyntaf hefyd i sefydlu mantais gymharol iach i’w dîm, 23-13 y sgôr wrth droi.
Ymestynnodd cais Rhodri Jones fantais y Cymry yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i gais cosb ddiogelu’r pwynt bonws ddeg munud o’r diwedd.
Ymatebodd y Ffrancwyr gyda chais eu hunain yn syth o’r ail ddechrau ond y Gweilch a gafodd y geiriau olaf gyda dau gais arall yn y pum munud olaf, y naill i Luke Morgan a’r llall i Owen Watkin.
51-20 y sgôr terfynol felly a buddugoliaeth sydd yn codi’r Gweilch dros Pau Chaerwrangon i frig grŵp 2 wedi tair gêm.
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Evans 13’, Cory Allen 31’, Rhodri Jones 45’, Cais Cosb 71’, Luke Morgan 75’, Owen Watkin 80’
Trosiadau: Sam Davies 13’, 31’, 45’, Hook 75’, 80’
Ciciau Cosb: Sam Davies 8’, 22’, 40’
.
Stade Francais
Ceisiau: Jimmy Yobo 26’, Julien Arias 71’
Trosiadau: Morne Steyn 26’, 71’
Ciciau Cosb: Morne Steyn 7’, 20’
Cerdyn Melyn: Mailetoa Hingano 40’