Mae prif hyfforddwr Clwb Rygbi Castell-nedd, Simon King wedi ymddiswyddo, gan ddweud y byddai’n “esgeulus” parhau yn ei swydd heb dîm meddygol.
Ond mae’r tîm meddygol yn dweud nad ydyn nhw wedi gadael y clwb.
Roedd nifer sylweddol o chwaraewyr eisoes wedi gadael, a’r clwb bellach yn gorfod benthyg chwaraewyr er mwyn cynnal gemau.
Mewn datganiad, dywed Simon King y bu’n fodlon gweithio “heb dâl” hyd yn hyn, ond fod y clwb wedi “torri amodau” eu trefniadau gydag ef.
“Rwy’n credu y byddai’n esgeulus parhau yn y swydd heb staff meddygol.
“Dw i wedi trio cario ymlaen mor hir â phosib er na ches i fy nhalu, a’r trefniadau oedd gen i gyda’r clwb yn amlwg yn cael eu torri.
“Rwy’n arddel fy hawliau fel hyfforddwr i fod â dyletswydd o ofal dros y chwaraewyr a heb y staff cynorthwyol priodol, alla’ i ddim parhau â fy nyletswyddau.”
Datganiad aelod o’r tîm meddygol
Ond mae aelod o’r tîm meddygol, y ffisiotherapydd Brian Downey yn gwrthddweud datganiad Simon King.
“Mae’r datganiad hwn gan Simon King, prif hyfforddwr Castell-nedd yn anghywir a chamarweiniol.
“Dydyn ni fel tîm meddygol ddim wedi gadael Clwb Rygbi Castell-nedd. Roedden ni’n bresennol yn yr ymarferion yr wythnos hon ac yn y gêm neithiwr, a byddwn ni yn y cyfarfod tîm/staff/clwb nesaf i drafod dyfodol y clwb.”
‘Diolch’
Mae Simon King wedi diolch am y gefnogaeth a gafodd yn y swydd – un a oedd yn “anrhydedd ryfeddol”, meddai.
Dywed fod y cefnogwyr wedi bod yn “rhagorol”, a’u bod yn “haeddu gwell”.
“Alla i ddim gweld bai yn eu hymdrechion a’u hymroddiad, a phan oedden nhw mewn sefyllfa anodd fe wnaethon nhw benderfyniadau er eu lles nhw a’u teuluoedd,” meddai am y chwaraewyr sydd wedi penderfynu gadael y clwb.
‘Deall a derbyn y penderfyniad’
Wrth ymateb i neges Simon King, mae’r clwb wedi diolch iddo am ei waith.
Dywed Graham Jones ar ran y gwirfoddolwyr sy’n rheoli’r clwb ar hyn o bryd ei fod yn “wirioneddol drist” yn sgil ei benderfyniad, ond ei fod yn ei “ddeall a’i dderbyn”.