Northampton 48–14 Dreigiau
Rhoddwyd cnoc drom i obeithion Ewropeaidd y Dreigiau wrth iddynt golli’n drwm oddi cartref yn erbyn Northampton yng Nghwpan Her Ewrop brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y tîm cartref wyth cais mewn buddugoliaeth hynod gyfforddus ar Erddi Franklin.
Croesodd Luther Burrell am gais cyntaf y Saeson wedi dau funud cyn i Api Ratuniyarawa ychwanegu’r ail yn fuan wedyn.
Croesodd James Fish am y trydydd toc cyn yr egwyl i roi mantais iach i Northampton wrth droi, 19-0 y sgôr.
Rhoddodd cais Adam Warren lygedyn o obaith i’r ymwelwyr o gymru yn gynnar yn yr ail gyfnod ond buan iawn y diflannodd hwnnw gyda chais pwynt bonws Burrell ychydig funudau’n ddiweddarach.
Dilynodd tair sgôr mewn chwe munud wrth i geisiau Taqele Naiyaravoro, Alex Mitchell ac ail Naiyaravoro fynd â’r gêm ym mhell o afael y Dreigiau.
Sgoriodd Nic Cudd gais cysur i’r Cymry wedi hynny ond Northampton a gafodd y gair olaf pan groesodd Ollie Sleightholme am gais olaf y gêm i gwblhau’r grasfa, 48-14 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn drydydd yng ngrŵp 1 gyda dim ond un buddugoliaeth o’u tair gêm gyntaf.
.
Northampton
Ceisiau: Luther Burrell 2’, 46’, Api Ratuniyarawa 11’, James Fish 38’ Taqele Naiyaravoro 51’, 57’, Alex Mitchell 53’, Ollie Sleightholme 80’
Trosiadau: Dan Biggar 12’, 40’, 47’, 80’
Cerdyn Melyn: Taqele Naiyaravoro 34’
.
Dreigiau
Ceisiau: Adam Warren 42’, Nic Cudd 78’
Trosiadau: Josh Lewis 43’, 79’