Scarlets 24–25 Ulster

Mae’r Scarlets allan o Gwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl colli gartref yn erbyn Ulster nos Wener.

Daeth breuddwydion Ewropeaidd Bois y Sosban i ben wrth i’r Gwyddelod sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws ar Barc y Scarlets.

Hanner Cyntaf

Cyfnewidiodd Rhys Patchell a John Cooney gic gosb gynnar yr un cyn i Jacob Stockdale groesi am gais cyntaf y noson i’r ymwelwyr. A chais da oedd o hefyd wrth i Ulster ymosod o’u hanner eu hunain cyn i’r asgellwr fanteisio ar daclo gwan y Scarlets i gwblhau’r symudiad.

Cafodd y tîm cartref gyfnod gwell tua hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac aethant ar y blaen gyda chais Steff Evans a throsiad Patchell.

Adferodd Ulster eu mantais cyn yr egwyl serch hynny wrth i’r asgellwr dde, Henry Speight, groesi yn y gornel yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr, 10-13 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Ymestynnodd y Gwyddelod eu mantais wedi deg munud o’r ail hanner pan darodd y canolwr, Will Addison, ongl dda i hollti trwy amddiffyn y Cymry.

Rhoddodd ail gais Evans y Scarlets yn ôl yn y gêm toc wedi’r awr ond ymatebodd Ulster bron yn syth wrth i’r dyfarnwr fideo ganiatáu cais i Marcell Coetzee, sgôr a sicrhaodd bwynt bonws o leiaf i’r ymwelwyr.

Dim ond wyth pwynt a oedd yn gwahanu’r ddau dîm ond er i’r Scarlets orffen yn gryf fe ddaeth cyfraniad y ddau Dan, cais Davis a throsiad Jones, yn rhy hwyr i’r tîm cartref, 24-25 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn gadael y Scarlets ar waelod grŵp 4 gyda dim ond dau bwynt o’u tair gêm gyntaf a bydd angen gwyrth fathemategol arnynt i gyrraedd yr wyth olaf bellach.

.

Scarlets

Ceisiau: Steff Evans 26’, 62’, Dan Davis 78’

Trosiadau: Rhys Patchell 27’, 62’, Dan Jones 80’

Cic Gosb: Rhys Patchell 2’

.

Ulster

Ceisiau: Jacob Stockdale 9’, Henry Speight 34’, Will Addison 50’, Marcell Coetzee 65’

Trosiad: John Cooney 50′

Cic Gosb: John Cooney 6’