Bydd y bachwr rhyngwladol Ken Owens yn dychwelyd i gapteinio’r Scarlets yn ystod y gêm yn erbyn Ulster heno (Rhagfyr 7).

A bydd y chwaraewyr rhyngwladol Samson Lee, Hadleigh Parkes a James Davies hefyd yn dychwelyd ar gyfer y gêm ym Mhencampwriaeth Cwpan Heineken.

Dyma fydd y tro cyntaf i James Davies lenwi safle’r blaenasgellwr ers iddo dderbyn anaf yn ystod y gêm yn erbyn Benetton ym mis Medi.

Bydd heno hefyd yn noson arbennig i David Bulbring, a fydd yn chwarae ei ganfed gêm mewn crys Scarlets.

Gêm dyngedfennol

Ar ôl colli dwy gêm yn Ewrop, mae angen i’r Scarlets sicrhau buddugoliaeth dros Ulster heno er mwyn cadw’r ymgyrch Ewropeaidd yn fyw.

Fe wynebodd y clwb rhanbarthol o orllewin Cymru’r un broblem y llynedd, ond ar ôl ennill eu trydydd gêm fe aethon nhw yn eu blaenau i sicrhau lle yn y rowndiau cynderfynol – y tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny ers dros ddegawd.

“Rydym ni wedi bod yn y sefyllfa yma o’r blaen, ac rydym yn edrych ar yr un senario â’r tymor diwethaf,” meddai Prif Hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac.

“Mae hynny yng nghefn ein meddyliau, sef ein bod ni wedi bod yn fan hyn o’r blaen, ac mae hynny’n rhoi ychydig o hyder, ond mae gennym grŵp caled eleni hefyd.”

Tîm y Scarlets

Johnny McNicholl; Tom Prydie, Jonathan Davies, Kieron Fonotia, Steff Evans; Rhys Patchell, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens (c), Samson Lee, Lewis Rawlins, David Bulbring, Will Boyde, James Davies, Uzair Cassiem.

Ar y fainc: Ryan Elias, Wyn Jones, Werner Kruger, Steve Cummins, Dan Davis, Kieran Hardy, Dan Jones, Hadleigh Parkes.

Ulster

Louis Ludik, Henry Speight, Will Addison, Stuart McCloskey, Jacob Stockdale; Billy Burns, John Cooney; Eric O’Sullivan, Rory Best (c), Marty Moore, Iain Henderson, Kieran Treadwell, Sean Reidy, Jordi Murphy, Marcell Coetzee.

Ar y fainc: Rob Herring, Kyle McCall, Tom O’Toole, Matthew Rea, Nick Timoney, David Shanahan, Johnny McPhillips, Darren Cave.

Mae disgwyl i’r gêm ym Mharc y Scarlets gychwyn am chwarter i wyth heno, ac fe fydd sylwebaeth fyw ar BBC Radio Wales.

Bydd modd gwylio’r uchafbwyntiau ar S4C toc wedi deg o’r gloch nos Sul.