Mae Undeb Rygbi Lloegr yn chwilio am hyfforddwr newydd, ac mae Warren Gatland, hyfforddwr Cymru, ar y rhestr o bobol y maen nhw’n eu llygadu.

Gyda chytundeb hyfforddwr presennol Lloegr, Eddie Jones, yn dod i ben yn 2021 mae’n ymddangos fod Lloegr wedi dechrau chwilio yn barod am bobol a fyddai’n addas ar gyfer y swydd.

Mae cymaint yn dibynnu ar sut y bydd tîm Eddie Jones yn perfformio yng Nghwpan y Byd 2019, ond fe fyddai siom yn Japan bron yn sicr o arwain at ymadawiad yr hyfforddwr o Awstralia yn fuan wedyn.

Trafod yn ystod y Chwe Gwlad

Mae’r amserlen yn awgrymu y gallai Undeb Rygbi Lloegr fod yn gofyn am sgwrs gyda Warren Gatland yn ystod y cyfnod paratoi ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Warren Gatland yn cael ei gydnabod am ei waith gydag Undeb Rygbi Cymru – am drawsnewid y tîm i fod ymysg y gorau yn y byd, ac am arwain y Llewod Prydeinig ddwywaith.

Ef yw’r hyfforddwr i fod gyda Chymru am y cyfnod hiraf, ac mi fydd llenwi esgidiau mor fawr yn dipyn o job.

Mae bos Undeb Rygbi Lloegr, Nigel Melville, yn mynd yn ôl ymhell gyda Warren Gatland. Ef oedd y dyn a’i helpodd i lansio ei yrfa hyfforddi yng ngwledydd Prydain gan ei benodi yn hyfforddwr Wasps Llundain yn 2002.