Gweilch 43–0 Zebre

Sgoriodd Luke Morgan hatric wrth i’r Gweilch roi crasfa iawn i Zebre yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref chwe chais i gyd mewn buddugoliaeth hynod gyfforddus ar y Liberty.

Wedi chwarter cyntaf di sgôr fe aeth y Gweilch ar y blaen gyda chais cosb. Dilynodd ail gais cyn yr egwyl wrth i Morgan blymio drosodd yn y gornel wedi pas hir Scott Williams.

Pas hir arall a arweiniodd at ail gais Morgan wedi’r egwyl, Sam Davies yn creu’r tro hwn.

Cyfunodd Davies a Morgan i sicrhau’r pwynt bonws ddeuddeg munud o’r diwedd, cic letraws Davies yn canfod Morgan, a’r asgellwr yn gwibio drosodd i gwblhau ei hatric gyda’r cais gorau o’r tri.

Gyda’r fuddugoliaeth yn ddiogel, daeth dau gais arall yn y munudau olaf, un yr un i Scott Otten ac Olly Cracknell.

Crasfa iawn yn y diwedd felly a chanlyniad sydd yn codi’r Gweilch i’r trydydd safle yng nghyngres A y Pro14.

.

Gweilch

Ceisiau: Cais Cosb 24’, Luke Morgan 33’, 57’, 69’, Scott Otten 78’, Olly Cracknell 80’

Trosiadau: Sam Davies 58’, 70’, James Hook 79’, 80’

Cic Gosb: Sam Davies 38’

.

Zebre

Cerdyn Melyn: Massimo Ceciliani 40’