Mae tîm rygbi Cymru ar fin gwneud “rhywbeth arbennig” wrth herio De Affrica mewn ymgais i ennill pob gêm yng nghyfres yr hydref am y tro cyntaf erioed, yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland.

Maen nhw eisoes wedi curo’r Alban, Awstralia a Tonga.

Tair buddugoliaeth allan o bedair – yn 2002 a 2016 – yw eu perfformiad gorau erioed.

A byddai buddugoliaeth heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 24) yn golygu pumed buddugoliaeth allan o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn De Affrica.

Mae’r chwaraewyr yn “eithaf ymwybodol” o’r hyn maen nhw ar fin ei gyflawni, yn ôl Warren Gatland.

“Mae fel sefyllfa gêm derfynol,” meddai. “Mae’n gwneud gwaith yr hyfforddwyr yn hawdd. Maen nhw’n gwybod y gallan nhw wneud rhywbeth arbennig.

“Mae fel yr adeg pan ydych chi’n chwarae gêm ola’r Chwe Gwlad am y Gamp Lawn. Does dim diffyg cymhelliant ar gyfer hynny.

“Dydy e ddim wedi cael ei gyflawni o’r blaen, a byddai ennill y cyfan yn yr hydref yn eithaf arbennig. Maen nhw’n eithaf ymwybodol o’r hyn mae hynny’n ei olygu, a’r canlyniadau i ni fel tîm wrth symud ymlaen.”

‘Gêm fawr’

Mae Cymru wedi colli ddwywaith yn unig eleni – yn erbyn Lloegr ac Iwerddon.

Byddai buddugoliaeth dros Dde Affrica’n golygu nawfed buddugoliaeth o’r bron am y tro cyntaf ers 1999.

“Dyma gyfle i ni wneud rhywbeth nad ydyn ni wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’n gêm fawr,” meddai’r canolwr, Jonathan Davies.

“Ry’n ni’n chwarae yn erbyn un o’r timau gorau yn y byd, ry’n ni am gael y fuddugoliaeth, ac mae tipyn o wefr yn ein plith ni wrth ymarfer.

“Mae disgwyl i ni fynd allan a chael canlyniad da.”