Mae Ken Owens yn dweud y byddai helpu’i wlad i gwblhau Camp Lawn yng Ngemau’r Hydref am y tro cyntaf erioed, gystal ag unrhyw beth iddo’i gyflawni.

Mae hynny yn dipyn o ddweud o gofio bod bachwr y Scarlets wedi chwarae yng ngemau’r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012.

Nid yw Cymru erioed wedi ennill eu holl gemau yn nhymor yr Hydref o’r blaen.

Ond wedi buddugoliaethau tros yr Alban, Tonga ac Awstralia, bydd cyfle yng Nghaerdydd amser te ddydd Sadwrn i greu record newydd.

Ac mae cyfle hefyd i Gymru ennill naw gêm yn olynol am y tro cyntaf ers 1999.

Ond bydd angen trechu tîm De Affrica, sy’n fawr ac yn gryf, er mwyn sicrhau Camp Lawn yr Hydref.

“Byddai [ennill pedair gêm yr Hydref] gystal ag unrhyw beth i mi,” meddai Ken Owens.

“Byddai yn wych i orffen y flwyddyn yn bositif iawn… mi fydden ni yn hapus iawn yn camu at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda phedair buddugoliaeth yn yr Hydref.”