Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r chwaraewr rygbi’r gynghrair enwog, John Mantle, a fu farw dros y penwythnos yn 76 oed.

Fe ymddangosodd y blaenwr o Gaerdydd, a fu’n chwarae rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair yn ystod ei yrfa, mewn 435 o o gêmau dros glwb St Helens rhwng 1965 a 1976. Yn ôl y papur lleol heddiw, ef oedd un o’r chwaraewyr gorau erioed i ddod atyn nhw o Gymoedd y De.

Chwaraeodd 13 o weithiau i wledydd Prydain, yn ogystal ag ennill 16 o gapiau i Gymru, gan gynrychioli ei wlad yn y ddau fath o rygbi. Fe gafodd ddau gap i’r tîm undeb.

Bu hefyd am gyfnodau yn chwarae i glybiau Salford, Leigh, Barrow, Keighley, Oldham, Caerdydd a Blackpool, cyn ymddeol o’r gêm yn 1982.

“Bonheddwr”

“Roedd yn perthyn i’r cyfnod hwnnw o chwaraewyr arbennig a sicrhaodd fod St Helens yn glwb rygbi’r gynghrair enwog heddiw,” meddai Eamonn McManus, cadeirydd St Helens.

“Symudodd o rygbi undeb Cymreig, a sefydlu ei deulu yn St Helens, ac fe ddaeth yn chwaraewr arbennig yn un o’n carfanau gorau erioed.

“Mae gen i o hyd atgof plentyn ohono’n perfformio gyda graen i St Helens a gwledydd Prydain. Yr un oedd y pleser, flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth ddod i adnabod y gŵr a oedd yn fonheddwr.

“Fe fydd yn cael ei golli’n fawr, ac yn cael ei gofio gan bawb.”

Wolves bron â’i arwyddo

Yn ei flynyddoedd cynnar, roedd John Mantle yn gampwr amlochrog gan ddod i’r amlwg ym myd athletau a phêl-droed – fe gafodd gynnig i arwyddo i Wolverhampton Wanderers yn y 50au pan oedden nhw’n un o brif glybiau Lloegr.