Mae llanc 16 oed wedi ymddiheuro ar ôl ymosodiad homoffobig ar gyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas.

Fe ddigwyddodd yn ardal Yr Ais yng Nghaerdydd nos Wener (Tachwedd 16), yn ôl yr heddlu.

Cafodd fideo ei bostio ar Twitter gan Gareth Thomas yn egluro beth oedd wedi digwydd.

Datganiad

“Rydym yn ymwybodol fod fideo wedi’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol gan y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas mewn perthynas â throsedd gasineb a ddigwyddodd yn Yr Ais yng nghanol dinas Caerdydd nos Wener, Tachwedd 16.

“Gallwn gadarnhau ein bod wedi ymdrin â llanc 16 oed ar ffurf cyfiawnder adferol yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 9yh.

“Fe ddigwyddodd cyfiawnder adferol ar gais Mr Thomas, ac fe gafodd ei dderbyn gan y llanc oedd wedi cyfaddef ymosod, ac fe ymddiheurodd am ei weithred.”