Mae’r tîm yn herio De Affrica, Canada a Hong Kong yng ngemau’r hydref, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.
Mae pedwar wyneb newydd yn y garfan. Mae’r cefnwr Lauren Smyth yn dechrau am y tro cyntaf, a Manon Jones, Ffion Lewis ac Alicia McComish wedi’u henwi ymhlith yr eilyddion.
‘Cam ymlaen’
“Mae rhai ohonon ni wedi chwarae yn erbyn De Affrica o’r blaen, ond dim llawer ohonon ni, felly bydd hynny’n gyffrous iawn,” meddai Alecs Donovan.
“Dw i’n credu bod ein rhaglen ranbarthol yn gam ymlaen ac yn ein rhoi ni gam ar y blaen o’i gymharu â’r llynedd, felly ry’n ni i gyd yn edrych ymlaen at roi’r holl waith caled i mewn i’n perfformiad ni ddydd Sadwrn.
“Roedden ni’n ymarfer dair gwaith yr wythnos ac yn chwarae ar y penwythnos, sy’n dipyn mwy na’r llynedd, ac mae wedi helpu’n fawr gyda’n ffitrwydd a’n sgiliau, ac fe gawson ni ganlyniadau da yn y rhaglen ranbarthol.”