Gleision 37–0 Zebre

Dathlodd y Gleision gêm olaf Gethin Jenkins dros y rhanbarth gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Zebre ar Barc yr Arfau brynhawn Sul.

Y gêm yn erbyn yr Eidalwyr yn y Guinness Pro14 oedd olaf y prop profiadol cyn ei ymddeaoliad a rhoddodd ei dîm yr anrheg perffaith iddo gyda buddugoliaeth bwynt bonws.

Rhoddodd cic gosb gynnar Steve Shingler y tîm cartref ar y blaen cyn i gic arall ganddo yn y chwarae agored arwain at gais cyntaf y gêm i Tom Williams.

Ychwanegodd y maswr dri phwynt arall cyn yr egwyl, 11-0 y sgôr wrth droi.

Ymestynnodd y Gleision eu mantais yn gynnar yn yr ail hanner gyda chais i Kirby Myhill wedi hyrddiad effeithiol gan y pac.

Yna, toc cyn yr awr, roedd pawb ar eu traed wrth i Jenkins ymuno â’r ornest am y tro olaf, a gorffennodd ei dîm y gêm mewn steil gyda thri chais arall yn yr ugain munud olaf.

Yn addas iawn, daeth y cyntaf o’r rheiny o sgrym bwerus, Nick Williams yn sgorio. Rey Lee-Lo a gafodd y nesaf, yn hollti trwy’r amddiffyn i sicrhau’r pwynt bonws.

Lee-Lo a gafodd y pumed hefyd cyn i Jenkins geisio’i lwc gyda’r trosiad, ond methu o fodfeddi!

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Gleision yn bedwerydd yn nhabl cyngres A y Pro14, ond tri phwynt yn unig sydd yn gwahanu pedwar tîm rhwng yr ail a’r pumed safleoedd.

.

Gleision

Ceisiau: Tom Williams 17’, Kirby Myhill 48’, Nick Williams 65’, Rey Lee-Lo 69’, 80’

Trosiadau: Steve Shingler 49’, 66’, 70’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 3’, 27’