Bydd tîm rygbi Cymru’n elwa o guro’r Alban, yn ôl y mewnwr Gareth Davies.

Roedden nhw’n fuddugol o 21-10 yn Stadiwm Principality ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 3) – y tro cyntaf iddyn nhw ennilll gêm gynta’r hydref ers 16 o flynyddoedd.

Bydd Cymru’n herio Awstralia, Tonga a De Affrica yn ystod yr hydref.

“Mae’n beth mawr. Ry’n ni fel arfer yn herio tîm o hemisffêr y de yn gyntaf, ar ôl iddyn nhw orffen y Bencampwriaeth Rygbi,” meddai Gareth Davies.

“Maen nhw wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd ers misoedd, ac ry’n ni fel arfer yn dod i mewn yn oer. Doedd [gêm yr Alban] ddim y gêm fwya’ prydferth, ond mae digon i weithio arno fe a dw i’n sicr y byddwn ni’n well yr wythnos nesa’.

“Os edrychwch chi ar berfformiadau Glasgow a Chaeredin dros y misoedd diwethaf, ac yn rhoi’r ddau dîm yna gyda’i gilydd, mae’n gwneud tîm Albanaidd cryf iawn. Ry’n ni’n hapus iawn o fod wedi dod i ffwrdd gyda’r canlyniad hwnnw.”

Awstralia

Tra bod Cymru wedi curo’r Alban ddeg gwaith yn olynol erbyn hynny, maen nhw heb fuddugoliaeth dros Awstralia ers 2008 – 13 o gemau.

Collodd Awstralia bedair gêm allan o chwech yn y Bencampwriaeth Rygbi eleni, ond byddan nhw’n hyderus o gynnal eu record yn erbyn Cymru.

“Rhaid i ni ymarfer yn dda a thanio wrth fynd i mewn i’r gêm,” meddai Gareth Davies.

“Ry’n ni wedi cael cwpwl o wythnosau anodd wrth ymarfer ac mae gyda ni nifer o gemau y tu ôl i ni nawr, felly fydd gyda ni ddim esgusodion.”

Mae Cymru wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf, ond dydyn nhw ddim wedi ennill saith yn olynol ers 13 o flynyddoedd.

Bydd Cymru’n herio Awstralia ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 10) am 1 o’r gloch.