Cymru 21–10 Yr Alban
Cafodd Cymru ddechrau da i gyfres yr hydref gyda buddugoliaeth dros yr Alban yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn (Tachwedd 3).
Fe sgoriodd George North a Jonathan Davies y ceisiau hollbwysig wrth i’r Cymry ennill y frwydr Geltaidd a chodi Cwpan Doddie Weir.
Hanner Cyntaf
Roedd George North yn meddwl ei fod wedi sgorio cais cyntaf y gêm wedi deuddeg munud, ond sylwodd y dyfarnwr fideo fod ei droed dros yr ystlys wrth iddo dirio cic Gareth Anscombe.
Bu rhaid i Gymru fodloni, yn hytrach, ar dair cic gosb gan Leigh Halfpenny i’w rhoi naw pwynt ar y blaen cyn i Adam Hastings gau’r bwlch gyda thri phwynt cyntaf yr Alban.
Bu rhaid aros tan ddeg munud olaf yr hanner am geisiau cyntaf y gêm, gyda’r cyntaf yn dod i Gymru wrth i George North rwygo trwy dair tacl i sgorio.
Yr Albanwyr a gafodd y nesaf serch hynny, Stuart McInally yn tirio wedi sgarmes symudol effeithiol, 14-10 y sgôr wrth droi wedi trosiad Adam Hastings.
Ail Hanner
Ymestynnodd Cymru eu mantais gydag ail gais yn gynnar yn yr ail hanner, pêl lân a symudiad taclus o’r lein a Jonathan Davies yn hollti trwy’r amddiffyn i sgorio.
Yr Alban a reolodd y tir a’r meddiant yn hanner awr olaf y gêm ond llwyddodd Cymru i amddiffyn yn effeithiol, a hynny gyda phedwar dyn ar ddeg am gyfnod wedi cerdyn melyn i Elliot Dee.
21-10 y sgôr terfynol felly a dechrau da i Gymru yng nghyfres yr hydref, am newid.
Cymru
Ceisiau: George North 30’, Jonathan Davies 48’
Trosiad: Leigh Halfpenny 49’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 5’, 15’, 23’
Cerdyn Melyn: Elliot Dee 69’
.
Yr Alban
Cais: Stuart McInally 35’
Trosiad: Adam Hastings 36’
Cic Gosb: Adam Hastings 26’