Caeredin 31–21 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets wrth iddynt deithio i Murrayfield i herio Caeredin yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Croesodd yr Albanwyr am bump cais mewn buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Bois y Sosban.

Cyfartal a oedd hi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn cais Viliame Mata i’r tîm cartref a Morgan Williams i’r ymwelwyr o dde orllewin Cymru.

Rhoddodd dau gais gan yr asgellwr, Tom Brown, fantais iach i Gaeredin wedi hynny ond tri phwynt yn unig a oedd ynddi erbyn yr egwyl diolch i gais Paul Asquith a throsiad Dan Jones, 17-14 y sgôr wrth droi.

Aeth Bois y Sosban ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda chais Johnny McNicholl yn gynnar yn yr ail hanner ond yn ôl y daeth Caeredin gyda chais Pierre Schoeman yn eu rhoi yn ôl ar y blaen toc cyn yr awr.

Sicrhaodd yr Albanwyr y fuddugoliaeth gyda chais arall bum munud o’r diwedd wrth i’r wythwr, Mata, groesi am ei ail ef a phumed ei dîm, 31-21 y sgôr terfynol wedi trosiad Simon Hickey.

Mae tîm Wayne Pivac yn aros yn ail yng nghyngres B y Pro14 er gwaethaf y golled.

.

Caeredin

Ceisiau: Viliame Mata 8’, 75’, Tom Brown 21’, 29’, Pierre Schoeman 57’

Trosiadau: Simon Hickey 9’, 77’, Juan Pablo Socino 58’

.

Scarlets

Ceisiau: Morgan Williams 15’, Paul Asquith 39’, Johnny McNicholl 50’

Trosiadau: Dan Jones 16’, 40’, 51’