Mae tîm rygbi Cymru yn disgwyl gêm “anodd a chorfforol” yn erbyn yr Alban yfory, yn ôl eu Prif Hyfforddwr.

Bydd y ddau dîm yn mynd benben am 2.45 yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd, ac yn ôl Warren Gatland byddan nhw’n chwarae rygbi “di-lol”.

Bu sôn y byddai’r ddau dîm yn ceisio chwarae rygbi mentrus, gan sgorio nifer o geisiau.

“Rhaid i ni fod yn ddigon corfforol yn y gêm hon,” meddai Warren Gatland. “Gêm go-iawn fydd hi… dw i’n addo hynny.

“Dydyn ni ddim yn mynd i fedru chwarae rygbi ffansi. Rydym eisiau chwarae rygbi deniadol. Ond rydym hefyd eisiau chwarae rygbi clyfar.”

Mae Cymru wedi curo’r Alban ym mhob un gêm gartref yng Nghaerdydd ers 16 blynedd.

Bydd modd gwylio’r gêm yn fyw ar S4C a gwrando yn fyw ar BBC Radio Cymru.